#

Diweddariad ar Brexit
Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol | 11Gorffennaf2016
 External Relations and Additional Legislation Committee | 11 July 2016
 

 

 

 


Papur Briffio:

1.       Cyflwyniad

Mae’r papur hwn yn rhoi diweddariad i’r Aelodau am y datblygiadau perthnasol diweddaraf ar gyfer y Cynulliad yn dilyn y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd ar 23 Mehefin.

Dylai’r Aelodau gyfeirio hefyd at y Papur Ymchwil ynghylch goblygiadau i Gymru yn sgil y bleidlais i adael, a gyhoeddwyd ar 24 Mehefin.

2.       Datblygiadau ar lefel yr UE

Cyfarfu Cyngor Ewrop ar 27 Mehefin a rhoddodd y Prif Weinidog David Cameron ddiweddariad i arweinwyr yr UE ar ganlyniad y Refferendwm ar yr UE. Ni wnaeth, wrth gwrs, roi hysbysiad o dan Erthygl 50 o fwriad y DU i adael, gan ei fod eisoes wedi cyhoeddi mai penderfyniad Prif Weinidog a Llywodraeth nesaf y DU fyddai hynny.

Ar 28 Mehefin, cynhaliodd Penaethiaid Gwladwriaethau a Llywodraethau’r 27 o Aelod-wladwriaethau eraill yn yr UE (UE27) gyfarfod anffurfiol i drafod Brexit. Roedd hyn yn arwydd o’r hyn a oedd i ddod: ar ôl i’r DU roi hysbysiad ffurfiol am ei bwriad i adael, bydd yr UE27 yn cyfarfod gyda’i gilydd heb y DU i drafod materion sy’n ymwneud â Brexit.

Un o’r negeseuon cryf a ddaeth o’r cyfarfod hwn oedd na fydd ‘trafodaethau anffurfiol’ gyda’r DU yn cael eu cynnal cyn i Lywodraeth y DU sbarduno Erthygl 50.

Mabwysiadodd Canghellor yr Almaen, Angela Merkel, ymagwedd gymodlon ar 24 Mehefin gan ddweud nad oedd angen i’r UE fod yn gas tuag at y DU a rhybuddiodd yn erbyn unrhyw ymatebion byrbwyll neu ddifeddwl i’r bleidlais Brexit. Fodd bynnag, ers hynny, mae hefyd wedi datgan na all y DU ddewis a dethol ac na fydd y trafodaethau â’r DU yn hawdd. Mae hefyd wedi galw ar y DU i egluro’n gyflym sut mae am lywio ei pherthynas â’r UE yn y dyfodol. Galwodd Arlywydd Hollande o Ffrainc ar i’r DU adael yr UE yn gyflym a datganodd na ellir gohirio Brexit nac oedi cyn ei weithredu.

Mae’r cwestiwn ynghylch pwy fydd yn arwain y trafodaethau rhwng yr UE27 a’r DU hefyd wedi ymddangos yn y newyddion, gyda gwefan newyddion yr UE, Politico.eu, yn sôn am y frwydr bŵer rhwng y Cyngor a’r Comisiwn ynghylch pwy fydd yn ymgymryd â’r rôl hon. Mae Juncker wedi ymgymryd â rôl amlwg yn yr wythnosau ers y refferendwm. Gwnaeth nifer o ddatganiadau ar y broses a’r trafodaethau mewn perthynas â Brexit, a galwodd ar y DU i ‘symud ymlaen’ â’r broses o adael ac ar Aelodau UKIP yn Senedd Ewrop i ymddiswyddo. Dywedodd hefyd na fydd y trafodaethau â’r DU yn cael eu cynnal mewn awyrgylch anghyfeillgar. 

Anfonodd Juncker hefyd e-bost at staff y Comisiwn Ewropeaidd ar 27 Mehefin, a welwyd fel neges o gysur i’r 1300 a mwy o ddinasyddion Prydeinig sy’n gweithio yn y Comisiwn ynghylch eu swyddi yn y dyfodol agos.

Mae nifer o adroddiadau yn y cyfryngau wedi awgrymu bod Juncker o dan bwysau - bydd yn rhaid aros i weld a oes sail i hyn ac a fydd newidiadau ar haen uchaf y Comisiwn a’r Senedd.

Yn yr un modd, bu sôn am ddyfodol Arlywydd y Senedd Ewropeaidd, Martin Schluz, yn y newyddion. Mae disgwyl i Schulz ymddiswyddo fel Arlywydd ym mis Ionawr 2017, o dan gytundeb a wnaed rhwng grwpiau’r EPP (i’r dde o’r canol) a’r S&D (i’r chwith o’r canol) yn Senedd Ewrop. Fodd bynnag, deellir bod Schulz yn ceisio ymestyn ei gyfnod yn y swydd tan ddiwedd y Senedd bresennol (2019), sy’n gam y bydd y grŵp EPP yn ei wrthwynebu.  

Trafododd Senedd Ewrop Brexit yn ei gyfarfod llawn byr ym Mrwsel ar 28 Mehefin, ac yn y cyfarfod llawn yr wythnos ddilynol yn Strasbwrg. Yn y cyfarfod hwn, cafwyd trafodaethau ‘tanbaid’, yr adroddwyd yn eang arnynt, rhwng Aelodau o wahanol bleidiau gwleidyddol Senedd Ewrop ac Arlywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Jean-Claude Juncker.

Ymddiswyddodd Comisiynydd y DU, yr Arglwydd Hill, o’i swydd ar y Comisiwn (fel y Comisiynydd dros Sefydlogrwydd Cyllidol, Gwasanaethau Ariannol a’r Undeb Marchnadoedd Cyfalaf), a chyhoeddwyd yr wythnos diwethaf y byddai Llysgennad Ffrainc y DU, Syr Julian King, yn cael ei enwebu yn lle’r Arglwydd Hill, ond gyda phortffolio gwahanol. Cyfarfu Syr Julian â Juncker ar 11 Gorffennaf a chafodd gefnogaeth Juncker. Bydd yn rhaid iddo ymddangos yn awr gerbron gwrandawiad yn Senedd Ewrop cyn y gall ymgymryd â rôl y Comisiynydd yn ffurfiol.    

Gwnaeth y Comisiynydd Masnach, Cecilia Malmstrom, ddatganiad na fyddai’r trafodaethau â’r DU ynghylch y cytundeb yn dilyn Brexit yn dechrau nes i’r trafodaethau ar ymadawiad y DU o’r UE ddod i ben. Mae Llywodraeth y DU wedi’i gwneud yn glir nad yw’n cytuno â’r dehongliad hwn o Erthygl 50, gyda’r Gweinidog dros Ewrop, David Lidington, yn datgan i Bwyllgor Dethol yr UE yn Nhŷ’r Arglwyddi (tudalen 15 o’r trawsgrifiad):

The words of Article 50 imply that there are two stages, because it refers to the fact that the negotiations about departure may take account of the future relationship between the departing member and the European Union. They are two different things, but Article 50in no way prevents negotiations taking place in parallel rather than in sequence. It is a matter of political choice.[Y pwyslais wedi’i ychwanegu]

Yr adran  berthnasol o Erthygl 50 sy’n cyfeirio at broses y trafodaethau ymadael a’r berthynas â’r UE yn y dyfodol yw paragraff 2:

2. A Member State which decides to withdraw shall notify the European Council of its intention. In the light of the guidelines provided by the European Council, the Union shall negotiate and conclude an agreement with that State, setting out the arrangements for its withdrawal, taking account of the framework for its future relationship with the Union.

3.       Datblygiadau ar lefel y DU

3.1        Sbarduno Erthygl 50

Yn ei araith ymddiswyddo ar ôl y refferendwm ar yr UE, nododd David Cameron mai’r Prif Weinidog a’r Llywodraeth nesaf fyddai’n gyfrifol am wneud y penderfyniad ynghylch pryd i sbarduno Erthygl 50, ar ôl iddynt gael eu penodi.

Mae rôl y Senedd yn y broses o sbarduno Erthygl 50 hefyd wedi’i grybwyll ers canlyniad y refferendwm. Mae Llywodraeth y DU yn dadlau y gall y Prif Weinidog sbarduno Erthygl 50 heb ganiatâd y Senedd, drwy ddefnyddio’r ‘Uchelfraint Frenhinol’. Mae’r erthygl hon ar wefan Cymdeithas Cyfraith Gyfansoddiadol y DU yn rhoi eglurhad cynhwysfawr a darllenadwy o’r materion mewn perthynas â hyn.

Bydd her gyfreithiol i gynnal arolwg barnwrol o’r defnydd o’r pwerau uchelfreiniol hyn yn cael ei chlywed mewn gwrandawiad rhagarweiniol ar 19 Gorffennaf. Wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor yr UE Tŷ’r Arglwyddi ar 5 Gorffennaf, dywedodd Gweinidog Llywodraeth y DU, Oliver Letwin, fod y cyngor cyfreithiol a roddwyd i’r Llywodraeth yn nodi’n glir bod y defnydd o’r Uchelfraint Frenhinol yn yr achos hwn wedi’i gyfiawnhau, ac roeddent yn hyderus y byddent yn gallu amddiffyn y sefyllfa hon yn erbyn her gyfreithiol.

3.2        Prif Weinidog a Llywodraeth newydd y DU

Mae’r cyfryngau yn y DU wedi dilyn yn fanwl y digwyddiadau mewn perthynas â phenodi olynydd i Cameron fel arweinydd y blaid Dorïaidd, felly nid ydym yn cyfeirio atynt yn fanwl yma.

Yn wreiddiol, disgwyliwyd i’r broses o benodi arweinydd, a Phrif Weinidog, newydd gael ei gohirio tan fis Medi. Fodd bynnag, mae’r ffaith bod Angela Leadsom AS wedi tynnu’n ôl o’r ras am arweinyddiaeth y blaid Dorïaidd ddydd Llun wedi newid yr amserlen yn sylweddol. Disgwylir i Theresa May gael ei chadarnhau’n Brif Weinidog yr wythnos hon, yn dilyn ymddiswyddiad Cameron ddydd Mercher.

Mewn datganiad a gyhoeddwyd ddydd Llun, dywedodd Theresa May, mewn perthynas â Brexit:

The need of course to negotiate the best deal for Britain in leaving the EU and to forge a new role for ourselves in the world. Brexit means Brexit and we’re going to make a success of it.

Wrth lansio ei chais i fod yn arweinydd y Torïaid ddiwedd mis Mehefin, dywedodd Theresa May ei bod yn bwriadu gwneud yr hyn a ganlyn:

…[to] create a new government department responsible for conducting Britain's negotiation with the EU and for supporting the rest of Whitehall in its European work.

"That department will be led by a senior Secretary of State -- and I will make sure that the position is taken by a member of parliament who campaigned for Britain to leave the EU."

3.3        Oliver Letwin yn cwmpasu’r paratoadau ar gyfer Brexit

Yn amlwg, bydd y digwyddiadau hyn yn cael effaith uniongyrchol ar y gwaith paratoi sy’n cael ei wneud gan lywodraeth Cameron i sefydlu’r seiliau ar gyfer llywodraeth newydd.

Roedd Cameron, yn sgil canlyniad y refferendwm ar yr UE, wedi penodi Oliver Letwin AS, y Gweinidog dros Bolisi’r Llywodraeth, Swyddfa’r Cabinet, i gwmpasu goblygiadau’r senarios Brexit gwahanol ar gyfer y DU. Ymddangosodd Mr Letwin gerbron nifer o Bwyllgorau’r Senedd yr wythnos diwethaf i drafod natur ei waith. Dywedodd wrth y Pwyllgor ei fod yn anelu at 9 Medi fel dyddiad gorffen, sef pryd y rhagwelwyd y byddai disgwyl i’r Prif Weinidog a’r Llywodraeth newydd fod wedi’u penodi

Disgrifiodd Mr Letwin ei rôl fel un sy’n cynnwys tair elfen:

§    Adeiladu tîm: dwyn ynghyd yr arbenigedd angenrheidiol (o Adrannau Whitehall a recriwtio allanol) er mwyn paratoi ar gyfer y negodiadau ar Brexit.

§    Gwaith ffeithiol manwl iawn: nodi’r cyfyngiadau a’r sefyllfaoedd cefndirol y bydd angen i’r rhai sy’n cynnal y negodiadau eu deall ar ôl i’r llywodraeth newydd gael ei sefydlu. Rhoddodd enghreifftiau o’r gwaith dadansoddi manwl a wnaed ar y rhwystrau sy’n bodoli o ran tariffau a materion eraill a’r effaith y byddai’r rhain yn ei chael ar gynnyrch/gwasanaethau unigol.

§    Papurau opsiynau: paratoi papurau opsiynau ar amrywiaeth eang o wahanol faterion y mae Brexit yn effeithio arnynt. Anelir at greu cymaint o hyblygrwydd â phosibl ar gyfer y llywodraeth newydd yn ei hystyriaeth o’r gwahanol opsiynau negodi.

Amlinellodd yn ei dystiolaeth na fyddai’r gwaith paratoadol hwn yn cynnwys unrhyw drafodaethau, ac na fyddai’n ceisio ffurfio barn ymlaen llaw am y gwahanol opsiynau neu senarios y byddai’r DU yn eu dewis yn y trafodaethau hyn. Nododd mai tasg i’r Prif Weinidog a’r llywodraeth nesaf fyddai hon.

Rhaid disgwyl i weld beth fydd yn digwydd yn awr i dasglu Letwin ar ôl y digwyddiadau hyn, ac a fydd y gwaith hwn yn cael ei gwmpasu gan yr Adran ‘Brexit’ newydd y mae Theresa May wedi datgan y bydd yn ei chreu pan fydd yn arweinydd. Rhaid disgwyl hefyd i weld pa rôl fydd gan Letwin yn hyn o beth, os bydd ganddo rôl o gwbl.

3.4        Cyfraniad y Gweinyddiaethau Datganoledig

Un o’r materion a fydd o gryn bwysigrwydd i’r Cynulliad fydd cyfraniad y gweinyddiaethau datganoledig at y paratoadau hyn. Yn ystod sesiwn dystiolaeth Pwyllgor Materion Tramor Tŷ’r Cyffredin, nododd Oliver Letwin fod cysylltiad wedi’i wneud â’r gweinyddiaethau datganoledig ar lefel swyddogion. Nododd hefyd fod ei swyddfa wedi hysbysu’r gweinyddiaethau datganoledig fod ei ddrws ar agor i Weinidogion datganoledig fynd ato i drafod unrhyw agwedd ar y gwaith paratoi hwn.  

Hysbysodd Mr Letwin Bwyllgor yr UE Tŷ’r Arglwyddi hefyd y byddai’n ysgrifennu cofnod llawn o’r holl brosesau ymgysylltu y mae wedi’u sefydlu â’r gweinyddiaethau datganoledig.

Cynhaliodd Pwyllgor Craffu ar Ewrop Tŷ’r Cyffredin, o dan gadeiryddiaeth Syr William Cash, gyfarfod ar y cyd â Chadeirydd ac aelodau’r Pwyllgor Materion Cymreig (gan gynnwys David Davies AS a Geraint Davies AS) ar 6 Gorffennaf i drafod effaith Brexit ar yr argyfwng dur. Cynhaliwyd y sesiwn ag Anna Soubry AS, y Gweinidog dros Fusnesau Bach, Diwydiant a Menter.

Mae’r Pwyllgor Craffu ar Ewrop hefyd wedi lansio ymgynghoriad (dyddiad cau 30 Medi) ynghylch sut y dylid addasu’r gwaith o graffu ar yr UE yn sgil Brexit.

3.5        Deiseb ar ail refferendwm

Cyhoeddodd Pwyllgor Deisebau Tŷ’r Cyffredin ddydd Mawrth y bydd y Senedd yn trafod e-ddeiseb ar 5 Medi sy’n galw am gynnal ail refferendwm ar yr UE yn dilyn y bleidlais Brexit. Cafodd y ddeiseb gefnogaeth dros 4.1 miliwn o bobl. O dan y system e-ddeisebau newydd a gyflwynwyd gan Dŷ’r Cyffredin ym mis Gorffennaf 2015, bydd y Pwyllgor Deisebau yn ystyried yr holl e-ddeisebau i’w trafod gan y Senedd lle mae nifer y llofnodion dros 100,000.

4.       Datblygiadau yng Nghymru

4.1        Llywodraeth Cymru

Cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru ddatganiad ar 24 Mehefin ar ôl canlyniad y refferendwm, a oedd yn nodi chwe blaenoriaeth i Gymru:

§    Amddiffyn swyddi;

§    Llywodraeth Cymru yn chwarae rhan lawn mewn trafodaethau am amseriad a thelerau ymadawiad y DU;

§    Dylai Llywodraeth y DU gynnal trafodaethau i gadw mynediad i’r Farchnad Sengl;

§    Parhau i gymryd ym mhrif raglenni’r DU fel y Polisi Amaethyddol Cyffredin a’r Cronfeydd Strwythurol hyd at ddiwedd 2020; 

§    Achos aruthrol dros ddiwygio Fformiwla Barnett yn sylweddol gan ystyried yr anghenion sy’n codi yn sgil gadael yr UE; 

§    Mae’r newid cyfansoddiadol yn sgil Brexit yn golygu bod yn rhaid ailystyried y berthynas rhwng y Gweinyddiaethau Datganoledig a Llywodraeth y DU yn llwyr.

Mae’r Prif Weinidog hefyd wedi gwneud nifer o ddatganiadau llafar mewn Cyfarfodydd Llawn ers hynny. Ar 28 Mehefin, wrth siarad am gyllid yr UE, mewn ymateb i Arweinydd yr Wrthblaid, Leanne Wood AC, dywedodd:

[Y]sgrifennais at Brif Weinidog y DU ddoe. Gofynnais iddo sicrhau pob ceiniog y byddem ni’n ei cholli, i wneud yn siŵr bod hynny’n dod i Gymru. Os caiff yr addewid hwnnw ei gadw, yna gallwn fwrw ymlaen â'r metro a phrosiectau eraill. Os nad yw’r addewid hwnnw’n cael ei gadw, yna mae bylchau ariannol sylweddol mewn nifer o brosiectau a fyddai o fudd i bobl Cymru. [13.47]

Nododd y Prif Weinidog wrth siarad am Swyddfa Llywodraeth Cymru ym Mrwsel:

…byddwn yn sefydlu tîm arbenigol yn ein swyddfa ym Mrwsel a fydd yn gyfrifol am siarad a thrafod yn uniongyrchol â'r Comisiwn Ewropeaidd. Nid oes yn rhaid i hynny fod yn hytrach na gweithio gyda Llywodraeth y DU, ond mae angen i ni wneud yn siŵr bod gan Gymru lais, a llais cryf.

Gwnaeth Ysgrifennydd y  Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths Ac, ddatganiad ar 6 Gorffennaf ar oblygiadau Brexit i Gymru. Cyfeiriodd y datganiad at gyfarfod ag NFU Cymru ar 4 Gorffennaf a nododd y bwriad i gynnal cyfres o gyfarfodydd tebyg gyda rhanddeiliaid ar draws yr amrywiaeth o sectorau i drafod eu pryderon a’u syniadau ynghylch Brexit. 

Cyfarfu Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, â’i gymheiriaid yn Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, yng Nghaerdydd ar 11 Gorffennaf i drafod goblygiadau’r refferendwm ar yr UE o ran eu portffolios. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddatganiad i’r wasgar ôl y cyfarfod yn datgan bod y Gweinidogion wedi cytuno i gydweithio ar ‘faterion ariannol pwysig sydd o ddiddordeb i bob un ohonynt’, gan gynnwys gofyn am addewid cadarn gan Lywodraeth y DU y bydd y ffrydiau cyllid sy’n gysylltiedig â’r Undeb Ewropeaidd yn parhau. 

4.2        NFU Cymru

Mae NFU Cymru wedi lansio ymgynghoriad ymysg ei aelodau er mwyn canfod eu barn am y tirlun polisi a’r tirlun rheoliadol ar ôl Brexit. Cytunodd Cyngor NFU Cymru ar 10 o egwyddorion ar gyfer polisi ffermio domestig yn y dyfodol, o dan y slogan “Gweithio tuag at ddiwydiant amaethyddol cynhyrchiol, proffidiol a blaengar yng Nghymru ar ôl Brexit”. Mae’r ymgynghoriad yn chwilio am farn y sector ffermio ynghylch yr egwyddorion hyn.   

4.3        Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Cyhoeddodd y Gymdeithas ddatganiad ar ôl canlyniad y refferendwm ar yr UE a oedd yn canolbwyntio ar effaith bosibl Brexit ar ddarparu a chyllido gwasanaethau lleol. Dywedodd y Cynghorydd Bob Wellington, arweinydd y Gymdeithas:

Mae gan y cynghorau lleol gysylltiadau cryf ag Ewrop ynglŷn â defnyddio’r cronfeydd strwythurol, diogelu hawliau gweithwyr a gweithredu yn ôl deddfau mewn meysydd o bwys megis diogelwch bwyd ac ansawdd yr awyr.  Er na fyddwn ni’n perthyn i Undeb Ewrop mwyach, mae’n bwysig i’r rhai a ymgyrchodd dros ymadael cyn y refferendwm gadw at yr addewid i ddiogelu arian ar gyfer adfywio yng Nghymru.  Bydd angen polisi newydd ac egnïol yn y Deyrnas Gyfunol bellach o ran rhanbarthau dinasol, cytundebau dinasoedd, rheilffordd y Metro a phrosiectau buddsoddi mawr eraill.

Mae WLGA yn cefnogi’n llwyr gais Prif Weinidog Cymru am ddiwygio fformiwla Barnett a phennu dyraniad ariannol newydd i’r wlad.  Byddwn ni’n gwrthwynebu’n gryf unrhyw gyllideb dros dro ac ynddi ragor o doriadau a llymder sy’n dodi baich ar y cynghorau.

4.4        Pysgodfeydd

Cyhoeddodd y Ffederasiwn Cenedlaethol Cymdeithasau Pysgotwyr (sefydliad DU gyfan) ddatganiad ar 24 Mehefin yn amlinellu’r cwestiynau allweddol y bydd angen i Lywodraeth y DU a’r Gweinyddiaethau Datganoledig fynd i’r afael â nhw. Mae’r rhain yn cynnwys: pa gytundebau dwyochrog neu dairochrog a sefydlir i reoli’r stociau a rennir gydag Aelod-wladwriaethau’r UE; sut y bydd mynediad ar gyfer llongau tramor i foroedd y DU yn cael ei reoleiddio; pa drefniadau mynediad i’r farchnad fydd yn bodoli ar gyfer cynnyrch pysgodfeydd; pa drefniadau newydd a roddir ar waith yn y DU; a sut y rheolir y broses o bontio i unrhyw drefniadau newydd.

5.       Yr Alban

Cyfarfu Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, ag Arlywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Jean-Claude Juncker, ac Arlywydd Senedd Ewrop, Martin Schulz, yn yr wythnos ar ôl y Refferendwm ar yr UE. Ystyriwyd bod y cyfarfod â Juncker yn un eithaf symbolaidd, gan ei fod wedi cael ei gynnal ar yr un diwrnod ag yr oedd Cameron ym Mrwsel ar gyfer cyfarfod y Cyngor Ewropeaidd.  

Mae Sturgeon yn dadlau’r achos dros aelodaeth barhaus yr Alban o’r UE, er gwaethaf pleidlais y DU i adael.

Dywedodd Sturgeon ar ôl y cyfarfod:

For my part, I’ve emphasised that Scotland voted to remain part of EU. If there is a way for Scotland to stay, I am determined to find it. We are in uncharted territory, and none of this is easy. My task is to bring principles, purpose and clarity to the situation, and to speak for all of Scotland… My concern at this stage is to ensure that once the UK negotiation with the EU starts, all the options are on the table‎. I don’t underestimate the challenges but I am heartened by the discussions. Here, I’ve found a willingness to listen: open doors, open ears and open minds.

Fodd bynnag, mae sylwadau gan Juncker ac arweinwyr eraill yr UE, gan gynnwys Prif Weinidog Sbaen, Mariano Rajoy, ac Arlywydd Ffrainc, Francois Hollande, wedi rhoi diwedd ar y posibilrwydd o drafodaethau gyda’r Alban ar wahân i’r DU. Dyfynnwyd Juncker yn y Guardian (29 Mehefin 2016):

Scotland won the right to be heard in Brussels. So I will listen carefully to what the first minister will tell me but we don’t have the intention, neither Donald [Tusk, president of the European council,] nor myself, to interfere in the British process. That is not our job.

Dyfynnwyd Mariano Roy hefyd yn dweud:

I want to be very clear: Scotland does not have the competence to negotiate with the European Union. Spain opposes any negotiation by anyone other than the government of the United Kingdom… I am extremely against it, the treaties are extremely against it and I believe everyone is extremely against it. If the United Kingdom leaves … Scotland leaves

Cyfeiriodd Prif Weinidog yr Alban hefyd at y posibilrwydd o ail refferendwm ar annibyniaeth mewn araith yn dilyn canlyniad y refferendwm ar yr UE ar 24 Mehefin:

…when the Article 50 process is triggered… the UK will be on a two year path to the EU exit door.

If [the Scottish] Parliament judges that a second referendum is the best or only way to protect our place in Europe, it must have the option to hold one within that timescale.

That means we must act now to protect that position. I can therefore confirm today that in order to protect that position we will begin to prepare the required legislation to enable a new independence referendum to take place if and when Parliament so decides.

Cyfeiriodd Llywodraeth yr Alban hefyd at y posibilrwydd y gallai Senedd yr Alban wrthod rhoi Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer diddymu Deddf Cymunedau Ewrop 1972 yn y dyfodol.

6.       Gogledd Iwerddon

Rhoddwyd cryn sylw hefyd i oblygiadau Brexit i Ogledd Iwerddon (ac Iwerddon) yn y newyddion. Mae’r ffin a’r Broses Heddwch yn cyflwyno heriau penodol y bydd angen eu hystyried yn y trafodaethau Brexit, tra bo Gogledd Iwerddon, fel Cymru, yn cael budd o symiau sylweddol o fuddsoddiad o’r UE, drwy’r Polisi Amaethyddol Cyffredin, Cyllid Strwythurol a’r Rhaglen PEACE.

Trafodwyd Brexit yng nghyfarfod Cynulliad Seneddol Prydain ac Iwerddon a gynhaliwyd yn Nulyn yr wythnos diwethaf (y bu nifer o Aelodau’r Cynulliad yn bresennol ynddo), ac yng Nghyngor Gweinidogol y Gogledd a’r De (cyfarfod a oedd yn dwyn ynghyd y Taoiseach Gwyddelig, Enda Kenny, Prif Weinidog Gogledd Iwerddon Arlene Foster (DUP), a’r Dirprwy Brif Weinidog Martin McGuinness (Sinn Féin).

Un o’r syniadau a awgrymwyd yw creu Fforwm i Iwerddon Gyfan ar Brexit, menter y Taoiseach Gwyddelig (yn ôl adroddiadau yn y cyfryngau), er nad yw hyn wedi’i godi’n ffurfiol fel awgrym. 

Galwodd y Dirprwy Brif Weinidog Martin McGuinness am ‘bleidlais ar y ffin’ (h.y. pleidlais Undod Iwerddon). O dan Gytundeb Dydd Gwener y Groglith, gellir cynnal refferendwm i uno Gogledd Iwerddon ag Iwerddon os yw’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ogledd Iwerddon yn ystyried yr hyn a ganlyn:

…a majority of those voting would express a wish that Northern Ireland should cease to be part of the United Kingdom and form part of a united Ireland. [Schedule 1 paragraph 2. Belfast Agreement 1998]

Ar ôl y bleidlais Brexit, dywedodd Llywodraeth Iwerddon y gwelwyd cynnydd yn nifer y ceisiadau gan ddinasyddion y DU am basbort Gwyddelig, yn enwedig yn Belfast a Llundain. Dywedodd Gweinidog Tramor Iwerddon, Charlie Flanagan:

Following the UK referendum, there has been a spike in interest in Irish passports in Northern Ireland, Great Britain and elsewhere… The increased interest clearly points to a sense of concern among some UK passport holders that the rights they enjoy as EU citizens are about to abruptly end.


 

Ymweliad â Brwsel:

Canfod ffeithiau

Hyd? 1-1.5 diwrnod o gyfarfodydd

Amseriad: yr wythnos yn dechrau 5? neu 19? neu 26 Medi

Meysydd i’w trafod yn ystod yr ymweliad

1. Y broses drafod a’r effeithiau ehangach:

§    Cynrychiolydd y DU a Chynrychiolydd Parhaol Iwerddon

§    Aelodau Cymreig Senedd Ewrop ac Aelodau eraill o Senedd Ewrop (e.e. yr Aelod o Senedd Ewrop o’r Almaen, David McAllister)

§    Tasglu Brexit o fewn y Comisiwn Ewropeaidd

2. Effaith ar feysydd polisi/cyllido allweddol (cyfarfodydd):

§    Comisiynydd Hogan/Cabinet a/neu’r Gyfarwyddiaeth Gyffredinol Amaethyddiaeth, y Gyfarwyddiaeth Gyffredinol Iechyd a Defnyddwyr (llesiant anifeiliaid)

§    Comisiynydd Cretu/Cabinet a/neu’r Gyfarwyddiaeth Gyffredinol Polisi Rhanbarthol a’r Gyfarwyddiaeth Gyffredinol Cyflogaeth

§    Comisiynydd Vella/Cabinet a/neu’r Gyfarwyddiaeth Gyffredinol Amgylchedd

§    Comisiynydd Moedas/Cabinet, y Gyfarwyddiaeth Gyffredinol Ymchwil, y Gyfarwyddiaeth Gyffredinol Addysg a Diwylliant

§    Cynrychiolaeth o Fanc Buddsoddi Ewrop ym Mrwsel

3. Modelau amgen (gellid trefnu trafodaeth):

§    Cenhadaeth Norwy i’r UE

§    Cenhadaeth y Swistir i’r UE

§    Cenhadaeth Canada i’r UE

4. Posibiliadau eraill (trafodaeth?):

§    Cynrychiolwyr o’r Alban a Gogledd Iwerddon

§    Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Swyddfa Addysg Uwch Cymru ym Mrwsel